Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Hydref 2017
Amser:
08.30 -
09.10
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Newidiodd y Llywodraeth y Datganiad ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynnal Teithiau Bws Am Ddim i Bobl Hŷn, Pobl Anabl a Chyn-filwyr Wedi'u Hanafu i Ddatganiad ar Ymgynghoriadau ar Deithio Rhatach ar Fysiau.
· Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 8 Tachwedd 2017 -
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Ymchwiliad i Blant sydd wedi bod mewn Gofal (30 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 18 Hydref:
NNDM6528
Julie Morgan
Hannah Blythyn
Angela Burns
Dai Lloyd
Jenny Rathbone
Joyce Watson
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio pob cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o'r arfer hwn;
b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff;
c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol; a
d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.
NNDM6527
Jenny Rathbone
Suzy Davies
Dafydd Elis-Thomas
Dai Lloyd
David Melding
Eluned Morgan
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg trafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol.
2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i:
a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a
b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau trydanu ledled Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor o 3 Hydref i gyfeirio Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth yng Nghyfnod 1, a chytunodd ar 16 Chwefror 2018 fel y dyddiad cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad Cyfnod 1 ac ar 4 Mai 2018 fel y dyddiad cau i'r Pwyllgor gwblhau ei drafodion Cyfnod 2.
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd y byddai'n well i bwyllgorau gael 6 wythnos bwyllgora i adrodd ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn y dyfodol. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai'r Llywodraeth yn ceisio darparu ar gyfer hyn, o fewn cyfyngiadau amserlenni Senedd y DU, wrth gynnig terfynau amser i'r Pwyllgor Busnes gytuno arnynt.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr adroddiad yn nodi'r newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag uwch-fwyafrifau. Cytunodd y Pwyllgor y dylid gosod yr adroddiad y diwrnod canlynol, ochr yn ochr â chynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher nesaf.
Cytunodd Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y papur yn y cyfarfod cyntaf ar ôl yr hanner tymor.
Cytunodd Rheolwyr Busnes y dylai'r dyraniad presennol o amser y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn aros yn ddigyfnewid.
O ran aelodaeth Pwyllgorau a chadeiryddiaethau, trafododd y Rheolwyr Busnes y materion a godwyd yn y papur ond ni allent gytuno yn unfrydol ar unrhyw benderfyniadau. Cynigiodd y Llywydd fod y Pwyllgor Busnes yn gosod adroddiad yn amlinellu eu trafodaethau a'u casgliadau; caiff drafft ohono ei ddosbarthu cyn y cyfarfod yr wythnos nesaf.